#                                                                                      

 

 

 

 


Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil: Arholiadau mis Ionawr Safon Uwch a Safon Uwch Gyfrannol

Rhif y ddeiseb: P5-05-704

Teitl y ddeiseb: Dod ag Arholiadau mis Ionawr yn ôl ar gyfer Myfyrwyr Safon Uwch/Uwch Gyfrannol

Testun y ddeiseb:

 Nod y ddeiseb hon yw codi’r mater nad yw myfyrwyr Safon Uwch/Uwch Gyfrannol yn cael y cyfle sydd ei angen i wireddu eu potensial. Mae’r ddeiseb hon yn galw am ddod ag arholiadau mis Ionawr yn ôl ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch/Uwch Gyfrannol.

Cefndir

Fel arfer, bydd cyrsiau Safon Uwch yn para dwy flynedd pan fydd myfyrwyr ym mlwyddyn 12 (16 oed ar ddechrau'r flwyddyn) a blwyddyn 13 (17 oed ar ddechrau'r flwyddyn). 

Mae'n bosib gwneud cwrs Safon Uwch Gyfrannol fel cymhwyster annibynnol, neu  fel rhan gyntaf o gwrs Safon Uwch. Yng Nghymru, maent fel arfer yn cael eu cwblhau ar ddiwedd Blwyddyn 12.  Caiff arholiadau a gwaith cwrs Safon Uwch eu hychwanegu at gymhwyster Safon Uwch Gyfrannol ar ddiwedd Blwyddyn 13 er mwyn gwneud cymhwyster Safon Uwch llawn.

Yn y gorffennol, roedd yn bosibl i fyfyrwyr ailsefyll arholiad Safon Uwch Gyfrannol yn ystod Blwyddyn 13 ym mis Ionawr. Daeth yr arfer hwn i ben yn Nghymru ar ôl mis Ionawr 2014. Y tro diwethaf y cafodd myfyrwyr yn Lloegr y cyfle i'w sefyll oedd mis Ionawr 2013.

Y prif reswm dros eu terfynu oedd i gyfyngu ar y nifer o gyfleoedd oedd gan ymgeiswyr i ailsefyll arholiadau Safon Uwch Gyfrannol i un (sef yn ystod haf Blwyddyn 13) ac i fynd i'r afael â'r hyn y mae rhai wedi'i alw'n  'ddiwylliant o ailsefyll'.

Penderfyniad i roi terfyn ar arholiadau mis Ionawr

Y penderfyniad yn Lloegr:

Ym mis Tachwedd 2012, yn dilyn ymgynghoriad ar ddiwygio cymwysterau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol, cyhoeddodd y rheoleiddiwr cymwysterau yn Lloegr, Ofqual,o fis Medi 2013 ymlaen, na fyddai myfyrwyr yn Lloegr bellach yn gallu ailsefyll arholiadau Safon Uwch nac Uwch Gyfrannol ym mis Ionawr. Dywedodd Ofqual y byddai hyn yn mynd i'r afael â'r pryderon diweddar am y nifer o weithiau y gall myfyrwyr sefyll eu harholiadau drwy leihau'r cyfleoedd i ailsefyll. Roedd y newidiadau yn berthnasol i fyfyrwyr a oedd eisoes wedi dechrau ar eu cyrsiau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol ym mis Medi 2012, ac felly nid oedd modd iddynt ailsefyll arholiadau Uwch Gyfrannol ym mis Ionawr 2014 (ar ôl sefyll yr arholiad yn wreiddiol ar ddiwedd Blwyddyn 12 yn ystod haf 2013).

Polisi yng Nghymru

Yn dilyn y datblygiadau yn Lloegr, yn 2013 penderfynodd Llywodraeth Cymru na ddylai'r cyfle i sefyll arholiadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol ym mis Ionawr fod ar gael yng Nghymru chwaith, ac y byddai'r penderfyniad yn dod i rym ar gyfer y garfan o fyfyrwyr a fyddai'n dechrau cyrsiau ym mis Medi 2013. Fodd bynnag, cafodd myfyrwyr a ddechreuodd gyrsiau Safon Uwch ym mis Medi 2012 ac roedd ym Mlwyddyn 13 ym mis Ionawr 2014 gyfle i sefyll arholiadau ym mis Ionawr.

Penderfynodd Gogledd Iwerddon fabwysiadu sefyllfa debyg i'r hwnnw yng Nghymru.

Cadw Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol yn gysylltiedig

Y sefyllfa bresennol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yw nad oes unrhyw arholiadau Safon Uwch nac Uwch Gyfrannol yn cael eu cynnig ym mis Ionawr. Fodd bynnag, mae un gwahaniaeth allweddol, sef, yng Nghymru a Gogledd Iwerddon mae cymhwyster Uwch Gyfrannol yn dal i gael ei ddyfarnu ar ôl Blwyddyn 12 (ac yn dal i gyfrif tuag at gymhwyster Safon Uwch), ond yn Lloegr mae cymwysterau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol wedi cael eu 'datgysylltu' ac maent bellach yn gymwysterau ar wahân, gyda'r ddau yn cael eu dyfarnu ar ddiwedd Blwyddyn 13.

Felly, ar gyfer ymgeiswyr o Gymru a Gogledd Iwerddon; fel rhan o'r broses ceisiadau sy'n digwydd yn ystod Blwyddyn 13, mae prifysgolion yn ystyried graddau Uwch Gyfrannol go iawn ymgeiswyr i addysg uwch, yn hytrach na graddau a ragwelir, fel sy'n rhaid iddynt wneud yn Lloegr bellach.

Y rhesymeg dros ddiddymu arholiadau mis Ionawr

Mae'r rhan fwyaf o'r newidiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i gymwysterau yng Nghymru yn dilyn Adolygiad Huw Evans o gymwysterau ar gyfer dysgwyr 14 i 19 oed yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2012.

O ran y mater penodol o arholiadau mis Ionawr, canfu adolygiad Huw Evans farn gymysg ond argymhellodd fod Llywodraeth Cymru yn:

• cadw'r strwythur Safon Uwch Gyfrannol/Safon Uwch

• caniatáu un cyfle i ailsefyll yn unig, gyda'r marc gorau yn cyfrif tuag ar y radd derfynol

• cydnabod yr ystod o safbwyntiau a fynegwyd gan randdeiliaid am y defnydd parhaus o unedau o fewn Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch a'r cyfleoedd asesu ym mis Ionawr. (Argymhelliad 25) [fy mhwyslais i]

Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, yn ei ddatganiad ym mis Mehefin 2013 a gyhoeddodd y newidiadau:

Bydd cael gwared ag asesiadau mis Ionawr yn lleihau'r amser a gaiff ei wario ar asesiadau yn hytrach nag ar ddysgu; bydd yn gwneud y system yn symlach ac yn fwy cost-effeithiol; a bydd yn lleihau'r baich arholi ar athrawon a dysgwyr.(...)

Er y bydd cael gwared ar ffenest asesu mis Ionawr yn lleihau'n sylweddol y cyfleoedd i ddysgwyr ailsefyll modiwlau,  i unwaith ar gyfer pob modiwl, fel sy'n digwydd gyda TGAU, hefyd yn gyson ag argymhellion yr Adolygiad o Gymwysterau - fel pob un o'r cyhoeddiadau hyn.

Ychwanegodd y Gweinidog ar y pryd fod Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn rhanddeiliaid ar gyfleoedd asesu ym mis Ionawr, gan gynnal arolwg ar-lein dros chwe wythnos ar ddiwedd 2012/dechrau 2013.

Lleihau cyfleoedd i ailsefyll arholiadau Safon Uwch Gyfrannol

Roedd y llenyddiaeth a oedd yn cyd-fynd/cefnogi'r penderfyniad i roi terfyn ar arholiadau mis Ionawr yn Lloegr yn gymharol fwy eglur, o ran yr amcan i gyfyngu ar y cyfleoedd ailsefyll, na'r hyn a oedd gan Lywodraeth Cymru.

Mae dogfen ymgynghorol 2012 Ofqual yn nodi'r canlynol:

56.Our national research found that students do not always treat exams seriously if they know that they have the opportunity to resit. (…) With only one resit allowed, continuous resitting will be eliminated, so we think that it is reasonable to allow students to count the highest mark when they resit. [fy mhwyslais i]

Yn yr un modd, dywedwyd yn asesiad Ofqual Asesiad o effaith y diwygiadau i Safon Uwch:  Astudiaeth a gomisiynwyd gan Ofqual:

Currently, students are able to re-sit exams multiple times, with between two-thirds and three-quarters of students re-sitting at least one unit. There is concern that the ability to do so results in a reduction of the prestige associated with A-levels, as students can just ‘get over the finish line’ by re-sitting multiple times. It may also contribute to grade inflation – for example the percentage of students who gain a grade A at AS (where re-sitting is much more common) is always higher than the percentage achieving a grade A at A2 level. [fy mhwyslais i]

Sawl blwyddyn ynghynt yn 2007, cyhoeddodd yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm yn Lloegr Ailsefyll arholiadau Safon Uwch: crynodeb o ganfyddiadau ymchwil a nododd y canlynol:

It is first important to note that nearly all GCE resitting activity relates to AS units.

The percentage of students achieving a grade A at AS is, across all centre types and subjects, always higher than the percentage achieving an A at A2 or at A level, a reflection perhaps of the resitting patterns of candidates.

The resitting of AS units during year 2 has a noticeable impact on students’ A level grades. The percentage receiving an A grade in a nominal A level result based on year 1 AS results is lower than the actual percentage of A grades achieved by the same candidates at the end of year 2. It appears that the AS resitting in year 2 is boosting their grades. [fy mhwyslais i]

Safbwyntiau eraill

Cafodd deiseb yn erbyn y penderfyniad yn Lloegr i ddiddymu arholiadau mis Ionawr ei gyflwyno i Senedd y DU yn 2012/13. Dywedodd Llywodraeth y DU fod y penderfyniad yn fater ar gyfer y rheoleiddiwr cymwysterau yn Lloegr, Ofqual, ond dywedodd nad oedd cynlluniau i wrthdroi'r penderfyniad a chaniatáu asesiadau mis Ionawr yn Lloegr. Roedd crynodeb Ofqual o'r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn 2012 (PDF 1.82MB), a ddaeth cyn y penderfyniad yn Lloegr, yn nodi'r canlynol:

There was … strong support for removing the January assessment window, as assessments in January were generally considered to disrupt teaching and learning. Some stakeholders, however, proposed that the January assessment window should be maintained in special circumstances, with many commenting that it was important for some protected groups, including students with special educational needs (SEN) or a disability. [fy mhwyslais i]

Yn ystod ymgynghoriad Ofqual, nododd Grŵp Russell, sy'n cynnwys 24 o 'brifysgolion mwyaf blaenllaw' y DU:

The proposed reduction in the number of re-sits that students are allowed to do would be a step in the right direction. We think it’s fair that people are given a second chance if they have good reasons for under-performing in an exam, but more recently students have been allowed to do re-sits too frequently. Our universities are concerned that many of the students who don’t get the grades first or second time around don’t go on to do as well in their chosen degree course. [fy mhwyslais i]

Fodd bynnag, darparodd y Cyngor Addysg Annibynnol, sef y corff proffesiynol ar gyfer colegau chweched dosbarth yn Lloegr, wybodaeth am y grwpiau o fyfyrwyr bydd y penderfyniad i ddiddymu arholiadau mis Ionawr yn effeithio arnynt, sy'n cynnwys:

§    Myfyrwyr sy'n ailsefyll Safon Uwch sydd bellach yn gorfod aros tan fis Mehefin yn hytrach na mis Ionawr i ailsefyll eu harholiadau. Gallai hyn achosi bwlch rhwng eu hastudiaethau, a gorfod paratoi eto ar gyfer yr arholiad, gan adael llai o amser i gynllunio ar gyfer y brifysgol.

§    Myfyrwyr sy'n cyflawni cymhwyster Safon Uwch mewn un flwyddyn yn lle dwy, drwy gywasgu'r cwrs Safon Uwch am amrywiaeth o resymau: yn hytrach na sefyll yr arholiadau Uwch Gyfrannol ym mis Ionawr ac yna defnyddio'r chwe mis olaf i ganolbwyntio ar Safon Uwch, bellach mae'n rhaid iddynt sefyll yr holl arholiadau ar yr un pryd.

§    Ysgolion a oedd yn cofrestru myfyrwyr Blwyddyn 12 i sefyll arholiadau Uwch Gyfrannol ym mis Ionawr yn hytrach na mis Mehefin, er mwyn iddynt ennill profiad arholiadau yn bennaf, ond hefyd i greu teimlad o frys ynghylch yr aholiadau. Roedd y Cyngor Addysg Annibynnol yn cydnabod bod yr arfer hwn braidd yn amheus o ran amcanion addysgol ehangach.

§    Myfyrwyr sy'n ailsefyll arholiadau Uwch Gyfrannol ym Mlwyddyn 13: nid yn unig i wella canlyniad gwael, ond yn aml i wella gradd Uwch Gyfrannol o un da i un ardderchog. Mae'n rhaid i'r myfyrwyr hyn aros tan yr haf bellach, ac ailsefyll unedau Uwch Gyfrannol ochr yn ochr â Safon Uwch.

Cyhoeddodd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) (PDF 144KB) ganlyniad ymchwil ar y cyd a wnaed gyda'r corff dyfarnu, OCR, yn seiliedig ar arolwg o fyfyrwyr addysg bellach ac addysg uwch rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2014. Dywedodd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr:

There was also considerable opposition to the reduction in the opportunity to re-sit, as January exams are removed under the new format. Eighty-nine per cent said that this will unfairly penalise students who have faced significant upheaval in their education and need a second chance. [fy mhwyslais i]

Cymwysterau Cymru

Yn ei hymateb, mae Kirsty Williams. Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn datgan bod hyn yn fater i Gymwysterau Cymru.

Cafodd Cymwysterau Cymru ei sefydlu ym mis Medi 2015 gan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, a drosglwyddodd swyddogaethau rheoleiddio cymwysterau oddi wrth Lywodraeth Cymru ac i'r sefydliad annibynnol newydd. Mae Deddf 2015 yn ei gwneud yn ofynnol bod Cymwysterau Cymru yn arfer ei swyddogaethau yn unol â'r ddau brif nod canlynol:

a)       Sicrhau bod cymwysterau, a system gymwysterau Cymru, yn effeithiol i ddiwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru.

b)       Hybu hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru.

Bydd yr Aelodau'n nodi, o ymateb Cymwysterau Cymru, ei fod yn credu y byddai ailgyflwyno arholiadau ym mis Ionawr yn gwanhau hyder y cyhoedd yn y cymwysterau a gymerwyd gan ddysgwyr Cymraeg, ac yn bygwth hygludedd. Yn ei farn reoleiddio mae'r sefyllfa bresennol yn parhau i fod er budd dysgwyr yng Nghymru.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.